Cofrestrwch i dderbyn ein Newyddion. ‘Dydyn ni ddim yn gyrru llawer, ond mae nhw werth eu darllen!
Mae Blue Lobster IT Ltd yn gwmni Datblygu Meddalwedd a Graffeg gwobrwyedig. Rydym yn arbenigo mewn datblygu datrysiadau meddalwedd unigryw ar gyfer disgyblaethau eang yn cynnwys Technoleg Gwe a Symudol, rhaglenni GIS, prosiectau data cymleth, Cyflwyno a Dadansoddi Data, Dylunio Cynnyrch Gwybodaeth ac Estyn Allan a Lledaenu Gwybodaeth.
Mae gennym bortffolio amrywiol ac eang, yn gweithio gyda Llywodraethau Cenedlaethol, Comisiwn Ewropeaidd (FP7, H2020 ayyb), Cyrff Di Elw, Gwneuthurwyr Polisi ac amrywiaeth o sectorau diwylliant. Mae gennym hefyd ddiddordeb gryf mewn sectorau Gwyddoniaeth Morol & Amgylchedd a Technoleg.
O wefannau steil pamffled hyd at ddatrysiadau ar gyfer mentrau mawr. Dylunio Gwe, Rheolaeth Cynnwys & Systemau E-Fasnach. Datblygu meddalwedd ar gyfer iPhone/iPad ac Android.
Dylunio graffeg professiynol, cyfoes sydd yn dal llygaid, ar gyfer pob cyfrwng. Mae portffolio fawr ac eang gennym, o bosteri, ffurflenni, pamffledi a chylchlythyrau hyd at gwefannau a brandio llawn ar gyfer eich busnes.
Profiad eang ac arbennigol mewn dylunio a datblygu Meddalwedd a Strategaethau o Ymwybyddiaeth , Polisi a Gwybodaeth yn y Sectorau Gwyddoniaeth Morol a Technoleg.
Datblygiadau o feddalwedd SGDd (GIS). Dadansoddi data gofodol. Delweddu data gofodol trwy ddefnyddio rhaglenni cyfrifiadurol a technoleg gwe.
Dadansoddi data, lledaenu a cyflwyno. Cyfnewid fformat, prosesu a gwe-letya. Technolegau cronfa ddata, ‘mashup’ a Data Mawr.
Creu dyluniadau gwe a graffeg deniadol ar gyfer y Comisiwn Ewropeaidd, Llywodraeth Cenedlaethol, Ysgolion, Creuwyr Polisi a sectorau diwydiannol eang .