Technoleg a Gwyddor Môr
Profiad eang mewn dyluniad a datblygiad meddalwedd a strategaethau ar gyfer ymestyn allan, polisiau a gwybodaeth yn y sector Gwyddor a Technoleg y Môr. Gweithio ar ffiniau datblygu meddalwedd, mae gennym bortffolio mawr o ddatrysiadau meddalwedd unigryw sydd yn:
- Integreiddio data newydd a sefydliedig o ystod eang o synhwyron a phlatfformau monitro in situ a synhwyro o bell, o arsyllfeydd morol ac arfordirol cenedlaethol a rhyngwladol.
- Rhannu data a gwybodaeth rhwng ystod eang o ddiwydiannau morol a sefydliadau monitro i gefnogi dull integredig i reolaeth ecosystemau morol.
- Dod a defnyddwyr hamdden hel data a gwybodaeth morol at eu gilydd ar gyfer strategaethau Gwyddor Dinasyddion.
- Effeithlonni asesiadau amgylchedd morol sydd yn gytûn ag anghenion polisiau y DU ac Ewrop, yn cynnwys Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol, Mesur Morol ac OSPAR.
- Cyflwyno gwybodaeth ar gyfer polisiau arbenig, yn cynnwys mapiau, graffiau amser a dangosyddion statws amgylcheddol morol ar y pryd.
- Cydymffurfio â safonau data Cenedlaethol a Rhyngwladol, polisiau a strategaethau, yn cynnwys cyfarwyddyd INSPIRE, Deddf Diogelu Data a’r safonau a ddiffinir gan y Consortiwm Geo-ofodol Agored.
Rydym wedi bod yn bartner allweddol mewn llawer o brosiectau proffil uchel Cenedlaethol ac Ewropeaidd yn cynnwys FP7 a wedi cael ein gwobrwyo, a wedi cyflawni amryw o gontractau mawr Llywodraeth y DU ac Ewropeaidd.